Description: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Ebrill 2013

 

 


Adroddiad ar yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

1.    Ar 28 Ionawr 2013, gosododd y Pwyllgor Busnes adroddiad, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, yn nodi 21 Mehefin 2013 fel dyddiad cau i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ystyried yr egwyddorion cyffredinol y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac adrodd arnynt.

2.    Ar 19 Mawrth 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes i newid y dyddiad cau i'r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i 5 Gorffennaf 2013, yn unol â Rheol Sefydlog 26.8, er mwyn caniatáu ystyriaeth o’r materion sy’n weddill.